Skip to main content

Y Monitor Digartrefedd: Cymru 2021

Y Monitor Digartrefedd: Cymru 2021 yw'r pedwerydd adroddiad yng Nghymru o astudiaeth annibynnol o effeithiau datblygiadau economaidd a pholisi diweddar yn y DU ar ddigartrefedd, a gomisiynwyd ac a ariannwyd gan Crisis.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae’n debygol bod blwyddyn gyntaf y pandemig wedi parhau â’r duedd cyn COVID-19 o gynnydd yn y galw am ddigartrefedd. Yn ôl ystadegau swyddogol, roedd achosion atal a lleddfu awdurdodau lleol wedi cynyddu 19% yn y tair blynedd hyd at 2019/20. Yna, yn ôl yr arolwg awdurdod lleol, gwelodd 15 o’r 22 cyngor gynnydd o un flwyddyn i’r llall yn 2020/21.

  • Dewis arall yn lle canolbwyntio’n gyfan gwbl ar yr ystadegau swyddogol a gynhyrchir yn weinyddol ar ddigartrefedd yw defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data presennol i asesu tueddiadau mewn ‘digartrefedd craidd’. Mae hyn yn ymwneud â phobl yn y mathau mwyaf difrifol ac uniongyrchol o ddigartrefedd. Yn 2019, roedd 8,980 o aelwydydd yn wynebu digartrefedd craidd cyffredinol yng Nghymru yn ôl ciplun, gan gynnwys 5,500 mewn amgylchiadau ‘syrffio soffas’.

  • Pe na bai COVID-19 wedi digwydd, a bod tueddiadau economaidd a demograffig wedi parhau mewn modd tebyg i’r gorffennol diweddar, mae ein rhagamcaniadau’n awgrymu y byddai niferoedd digartrefedd craidd yng Nghymru yn y dyfodol wedi bod yn tua 9-9,500 drwy gydol y cyfnod rhagamcanu hyd at 2041. Rhagwelir y gallai canlyniadau economaidd COVID-19 arwain at gynnydd amlwg ar unwaith mewn digartrefedd craidd, ond mae amrywiaeth o fesurau argyfwng COVID-19 wedi bod yn lliniaru hyn ac mae’n bosibl y byddant yn parhau i wneud hynny.

  • Mae ein dadansoddiad modelu dilynol yn dangos mai’r polisïau mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau digartrefedd craidd yw Ailgartrefu Cyflym, ynghyd â chwotâu dyrannu tai cymdeithasol ar gyfer aelwydydd digartref; gwneud y gorau o ymdrechion atal, gan gynnwys mwy o ddefnydd o rentu preifat a chymorth ariannol/dyledion; a chodi lefel y Lwfans Tai Lleol a’i fynegeio’n effeithiol i lefelau rhent preifat.

  • Cafodd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ac yn enwedig cysgu allan, yn ystod pandemig COVID-19, eu canmol yn fawr gan y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil. Ystyriwyd bod cyfuniad o ganllawiau pendant (gan gynnwys mewn perthynas â phobl heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus), cronfeydd ychwanegol sylweddol ac ymrwymiad gwleidyddol lefel uchel, yn ganolog i effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn.

  • Roedd Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym i amddiffyn tenantiaid cymdeithasol a phreifat rhag cael eu troi allan drwy ymestyn cyfnodau rhybudd troi allan a gwahardd gorfodi troi allan dros dro. Ond gall lefelau cynyddol o ôl-ddyledion rhent yn y misoedd i ddod brofi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a landlordiaid i roi diwedd ar droi pobl allan i ddigartrefedd o dai cymdeithasol.

  • Cyn COVID-19, roedd digartrefedd eisoes yn flaenoriaeth wleidyddol uchel yng Nghymru, gyda strategaeth genedlaethol wedi’i chyhoeddi ym mis Hydref 2019. Yn dilyn hynny, mae’r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd wedi cynhyrchu toreth o gynigion polisi manwl i roi sylwedd i’r egwyddorion hyn. Mae holl argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd wedi cael eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn sail i Gynllun Gweithredu lefel uchel, ond mae rhywfaint o ochelgarwch o ran agweddau Ailgartrefu Cyflym a Thai yn Gyntaf yr agenda hon yn dal i fod yn amlwg mewn rhannau o’r sector digartrefedd yng Nghymru.

  • Mae argymhelliad allweddol arall gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn ymwneud â chael gwared ar rwystrau cyfreithiol sy’n atal pobl ddigartref rhag cael gafael ar dai a chymorth, gan gynnwys y profion statudol presennol ar gyfer angen blaenoriaethol, digartrefedd bwriadol a chysylltiad lleol. Mae arolwg yr adroddriad hwn o awdurdodau lleol yn dangos bod y rhan fwyaf o gynghorau Cymru’n cefnogi dileu’r maen prawf angen blaenoriaethol, ond mae’r farn yn fwy rhanedig o ran dod â’r prawf digartrefedd bwriadol i ben, ac mae awdurdodau’n bendant yn erbyn dileu’r cyfyngiadau ar gysylltiadau lleol.

 

Cyfeirnod

Fitzpatrick, S., Pawson, H., Bramley, G., Young, G., Watts, B. & Wood, J. (2021) Y Monitor Digartrefedd: Cymru 2021. Llundain: Crisis

 

;