Skip to main content
Logo

The next Welsh Government can take action to end homelessness / Gall Llywodraeth Cymru nesaf gymryd camau i roi diwedd ar ddigartrefedd

Nick Morris, Head of Policy and Communications (Wales)

Fersiwn Cymraeg isod / Welsh version below

The pandemic has brought into sharp focus how essential a home is to our security and as a base on which to build our lives. While many were able to follow the guidance that told us ‘stay at home’, ‘work from home if you can’ and to ‘self-isolate’ not all of us had somewhere safe and stable to call home when the pandemic hit. There were people homeless on the street, in hostels and bed and breakfasts, and sleeping on sofas.

The extraordinary action by governments in the last year to provide emergency accommodation to people who had nowhere safe to stay has shown that with the right measures in place we can tackle and end homelessness. The beginning of a new Senedd term provides an opportunity for the next Welsh Government to put in place the longer-term approaches and changes needed as part long-term plan to end homelessness in Wales.

These pandemic measures had widespread support across the political spectrum, and at Crisis we believe there should be no going back. That’s why in this election our manifesto for ending homelessness in Wales has called on all parties in Wales to commit to making ending homelessness and helping people into safe and stable housing a priority should they form the next Welsh Government.

All parties in Wales have now published their manifestos ahead of the election, setting out their priorities for the next five years. Parties have committed to a range of measures including delivering new homes, support for homelessness services to enable people to access and maintain a home, and investing in interventions targeted at those sleeping rough.

Summaries are ordered by the date of publication of the party’s manifesto and where commitments were made in relation to housing and homelessness. More information on each of the parties' election commitments are available on the BBC Wales website.

 

Propel

As part of a Housing Justice Act, the party commits to a Housing First approach to end homelessness in Wales, setting targets for local authorities to bring long-term empty properties back into use, and introducing a Right to Buy scheme for all social housing tenants, with all revenue directed towards building more quality social housing.

 

Wales Green Party

The party commits to building 12,000 new homes annually, with the majority being social homes for rent. In their manifesto, the party also states that ending homelessness would be a priority, including investment in mental health support, addiction services, and financial inclusion support for people experiencing homelessness.

 

Plaid Cymru

In their manifesto, the party commits to enshrining the right to adequate housing into law including making Housing First the default option for people experiencing homelessness, abolishing priority need, building 30,000 social homes for rent, and measures on preventing evictions.

Welsh Labour

The party commits to building 20,000 new social homes for rent over the next 5 years, measures to tackle affordability of the private rented sector for those with experience of homelessness, and a set of Codes of Law, to include housing rights.

 

Welsh Liberal Democrats

In their manifesto, the party commits to building 30,000 new social homes for rent, a plan to end homelessness including investment in Housing First, and legal change to ensure that everyone has the right to housing and to access homelessness support.

 

Welsh Conservatives

The party commits to building 100,000 new houses over the next decade, 40,000 of which would be social homes for rent. The party also proposes to invest in the Housing First model, bringing empty homes back into use, and appointing a Homelessness Commissioner to help tackle and end rough sleeping by 2026.

 

How you can take action

  1. Read our manifesto for Wales. Based on the evidence of what we know works to end homelessness we’ve set out a range of actions that the next Welsh Government should take to help prevent and end homelessness across Wales in our Manifesto for Ending Homelessness in Wales. Read the manifesto here.
  2. Take action to make sure no one is left out. Back our campaign, No One Left Out, calling on political parties in Wales to commit to changing the law in Wales so nobody is left without the help they need to leave homelessness because of who they are, where they live, or how they became homeless. Take action by writing to your Senedd candidates now.
  3. Follow our updates. Read the latest campaign updates and news about our work across Wales by following @crisiswales on Twitter.

 

Mae pandemig y coronafeirws wedi atgoffa pob un ohonom pa mor hanfodol yw cartref i’n diogelwch ac fel sylfaen i adeiladu ein bywydau arni.

Er bod nifer wedi gallu dilyn y canllawiau ar ‘aros adref’, ‘gweithio gartref os gallwch chi’ a ‘hunanynysu’, nid oedd gan bob un ohonom rywle diogel a sefydlog i’w alw’n gartref pan darodd y pandemig. Roedd pobl yn ddigartref ar y stryd, mewn hostelau a llety gwely a brecwast, ac yn cysgu ar soffas.

Mae’r camau eithriadol a gymerwyd gan lywodraethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu llety mewn argyfwng i bobl heb le diogel i aros wedi dangos, gyda’r mesurau cywir, y gallwn fynd i’r afael â digartrefedd a rhoi diwedd arno. Mae dechrau tymor newydd y Senedd yn gyfle i Lywodraeth nesaf Cymru roi’r dulliau gweithredu a’r newidiadau tymor hir ar waith sydd eu hangen fel rhan o’r cynllun hirdymor i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Cafodd mesurau’r pandemig gefnogaeth eang ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac yn Crisis, rydyn ni’n credu na ddylid cymryd cam yn ôl. Dyna pam bod ein maniffesto yn yr etholiad hwn ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru wedi galw ar bob plaid yng Nghymru i ymrwymo i flaenoriaethu rhoi diwedd ar ddigartrefedd ac i helpu pobl i gael cartref diogel a sefydlog os byddant yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.

Mae pob plaid yng Nghymru bellach wedi cyhoeddi ei maniffesto, gan nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r pleidiau wedi ymrwymo i amrywiaeth o fesurau gan gynnwys darparu cartrefi newydd, cymorth ar gyfer gwasanaethau digartrefedd i alluogi pobl i gael mynediad i gartref a’i gynnal, a buddsoddi mewn ymyriadau sydd wedi’u hanelu at y rheini sy’n cysgu allan.

Mae’r crynodebau’n cael eu trefnu yn ôl dyddiad cyhoeddi maniffesto’r blaid a lle gwnaed ymrwymiadau o ran tai a digartrefedd. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o ymrwymiadau etholiadol y pleidiau ar gael ar wefan BBC Wales.

 

Propel

Fel rhan o Ddeddf Cyfiawnder Tai, mae’r blaid yn ymrwymo i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru drwy ddull Tai yn Gyntaf, gan osod targedau ar gyfer awdurdodau lleol i adfer cartrefi gwag tymor hir i’w defnyddio eto, a chyflwyno cynllun Hawl i Brynu ar gyfer pob tenant tai cymdeithasol, gyda’r holl refeniw yn cael ei gyfeirio tuag at adeiladu mwy o dai cymdeithasol o safon.

 

Plaid Werdd Cymru

Mae’r blaid yn ymrwymo i adeiladu 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn gartrefi cymdeithasol i’w rhentu. Yn ei maniffesto, dywed y blaid hefyd y byddai rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth, yn ogystal â buddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl, gwasanaethau caethiwed, a chymorth cynhwysiant ariannol i bobl sy’n ddigartref.

 

Plaid Cymru

Yn ei maniffesto, mae’r blaid yn ymrwymo i ymgorffori’r hawl i dai digonol yn y gyfraith gan gynnwys gwneud Tai yn Gyntaf yn opsiwn diofyn i bobl sy’n wynebu digartrefedd, dileu angen blaenoriaethol, adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol i’w rhentu, a mesurau i atal pobl rhag cael eu troi allan o’u cartrefi.

 

Llafur Cymru

Mae’r blaid yn ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol newydd i’w rhentu dros y 5 mlynedd nesaf, mesurau i fynd i’r afael â fforddiadwyedd y sector rhentu preifat ar gyfer y rheini sydd â phrofiad o ddigartrefedd a set o Godau Cyfraith, i gynnwys hawliau tai. 

 

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Yn ei maniffesto, mae’r blaid yn ymrwymo i adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol newydd i’w rhentu, cynllun i roi terfyn ar ddigartrefedd gan gynnwys buddsoddi mewn Tai yn Gyntaf, a newid cyfreithiol i sicrhau bod gan bawb yr hawl i gael tai ac i gael cymorth digartrefedd.

 

Ceidwadwyr Cymreig

Mae’r blaid yn ymrwymo i adeiladu 100,000 o dai newydd dros y degawd nesaf, a 40,000 ohonynt yn gartrefi cymdeithasol i’w rhentu. Mae’r blaid hefyd yn cynnig buddsoddi yn y model Tai yn Gyntaf, gan adfer cartrefi gwag i’w defnyddio eto, a phenodi Comisiynydd Digartrefedd i helpu i fynd i’r afael â chysgu allan a rhoi terfyn ar gysgu allan erbyn 2026.

 

Sut gallwch chi weithredu

  1. Darllenwch ein maniffesto ar gyfer Cymru. Ar sail y dystiolaeth o’r hyn y gwyddom ei fod yn gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd, rydyn ni wedi nodi amrywiaeth o gamau y dylai Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i helpu i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd ledled Cymru yn ein Maniffesto ar gyfer Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yng Nghymru. Darllenwch y maniffesto yma.
  2. Cymryd camau i sicrhau nad oes neb heb help. Cefnogwch ein hymgyrch, Neb Heb Help, gan alw ar bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ymrwymo i newid y gyfraith yng Nghymru fel nad oes neb yn cael ei adael heb y cymorth sydd ei angen arnynt i adael digartrefedd oherwydd pwy ydynt, ble maent yn byw, neu sut daethant yn ddigartref. Gweithredwch drwy ysgrifennu at eich ymgeiswyr yn y Senedd nawr.
  3. Dilynwch y diweddaraf. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch a newyddion am ein gwaith ledled Cymru drwy ddilyn @crisiswales ar Twitter.

 

 

 

For media enquiries:

E: media@crisis.org.uk
T: 020 7426 3880

For general enquiries:

E: enquiries@crisis.org.uk
T: 0300 636 1967

 
;