Skip to main content
Logo

Y monitor digartrefedd: Cymru 2017

Astudiaeth hydredol yw’r monitor digartrefedd, ac mae’n darparu dadansoddiad annibynnol o effaith datblygiadau economaidd a datblygiadau polisi diweddar ar ddigartrefedd ledled y Deyrnas Unedig.

Canfyddiadau allweddol

  • Ceir consensws cryf bod y fframwaith digartrefedd statudol newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi cael amryw o effeithiau cadarnhaol, gan gynnwys ailgyfeirio ‘diwylliant’ awdurdodau lleol tuag at ddulliau mwy ataliol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, ac ysgogi ymateb llawer gwell o ran y gwasanaeth i bobl ddigartref sengl yn benodol.
  • Yn 2016/17, roedd digartrefedd wedi’i atal yn llwyddiannus mewn bron ddau draean (62%) o’r aelwydydd lle aseswyd bod ‘bygythiad o ddigartrefedd’ (5,718 o 9,210), yn ôl yr ystadegau  swyddogol, a chofnodwyd cyfradd lwyddiant o 41% (4,500 o 10,884) gan awdurdodau lleol mewn achosion rhyddhau o ddigartrefedd – h.y. canfod cartref i bobl ddigartref (yn hytrach nag ymyriadau i atal digartrefedd rhag digwydd)
  • Yn ôl y disgwyl, a’r gobaith, mae nifer yr aelwydydd mewn angen blaenoriaethol a gynorthwywyd o dan y ‘ddyletswydd i sicrhau llety’ newydd, sydd ond yn digwydd ar ôl i ymdrechion atal a/neu  ryddhau fethu, yn llawer is na lefelau statudol pobl y ‘derbyniwyd’ eu bod yn ddigartref o dan y system cyn 2015.
  • Fodd bynnag, mae’r duedd raddol tuag i lawr mewn lleoliadau mewn llety dros dro a welwyd yn y cyfnod 2012-2015 wedi’i gwrthdroi’n ddiweddar. Yn ystod y cyfnod 12 mis diwethaf, cynyddodd nifer y lleoliadau 7%. O ystyried y disgwyliad y byddai pwyslais cryfach ar atal ymlaen llaw o dan y drefn statudol newydd wedi arwain at lai o ‘fewnlifiad’, mae hyn ychydig yn groes i’r hyn a ddisgwyliwyd, a gallai adlewyrchu’r cynnydd mewn pwysau strwythurol a’r cynnydd yn y ‘niferoedd’ a nodir isod.
  • Hyd yn oed o dan y model statudol newydd, llawer mwy cynhwysol hwn i Gymru, mae cynigion cymorth awdurdodau lleol yn dal i fethu â datrys argyfwng tai cohort sylweddol o ymgeiswyr digartref (er bod rhai ohonynt yn llwyddo i ganfod eu datrysiad eu hunain). Mae’r grŵp allweddol yma’n cynnwys aelwydydd y barnwyd yn gyfreithiol eu bod yn ddigartref ond sydd â phroblemau ‘heb eu datrys yn llwyddiannus’ ac a ystyrir yna eu bod yn achosion ‘nad ydynt yn flaenoriaeth’ nad ydynt yn gymwys i gael y ‘ddyletswydd ailgartrefu lawn’ o dan A75. Roedd 1,233 yn y grŵp hwn yn 2016/17.
  • Ni ellir dadlau y bu cynnydd diweddar mewn cysgu ar y stryd yng Nghymru, ac er nad yw union faint y cynnydd hwn yn glir, mae’n ymddangos yn debygol ei fod yn gynnydd rhwng 16% a 30% o’i gymharu â 2015. Disgwylir cyhoeddiad polisi gan Lywodraeth Cymru am gysgu ar y stryd cyn bo hir.
  • Ni ellir dadlau y bu cynnydd diweddar mewn cysgu ar y stryd yng Nghymru, ac er nad yw union faint y cynnydd hwn yn glir, mae’n ymddangos yn debygol ei fod yn gynnydd rhwng 16% a 30% o’i gymharu â 2015. Disgwylir cyhoeddiad polisi gan Lywodraeth Cymru am gysgu ar y stryd cyn bo hir.
  • Roedd bron bob awdurdod lleol yng Nghymru a ymatebodd i’n harolwg awdurdodau lleol 2017 yn credu bod diwygio lles ers 2010 wedi gwaethygu digartrefedd yn eu hardal, a nododd y rhan fwyaf fod ymestyn Cyfradd Llety a Rennir y Lwfans Tai Lleol i bobl 25-34 mlwydd oed wedi gwneud niwed arbennig. 

Cyfeirnod

Fitzpatrick, S., Pawson, H., Bramley, G., Wilcox, S., Watts, B. & Wood, J. (2017) Y monitor digartrefedd: Cymru 2017. Llundain: Crisis

 
;