Skip to main content
Logo

Diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth

Nid trosedd yw bod yn ddigartref.

A white man is sitting on some steps. A woman in police uniform is talking to him

English / Cymraeg

Ers ei sefydlu yn 1824, mae’r Ddeddf Crwydradaeth wedi gwneud cysgu ar y stryd neu fegera yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.

Nid yw eu hystyried yn drosedd yn gwneud unrhyw beth i ddatrys yr hyn sydd wrth wraidd digartrefedd.

A dweud y gwir, mae’n fwy tebygol o wthio rhywun ymhellach oddi wrth y gwasanaethau hanfodol sy’n eu helpu i symud oddi ar y stryd.

Diolch i’n hymgyrchu ni a’ch gweithredoedd chi, mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth wedi’i ymgorffori yn y gyfraith – llwyddiant aruthrol i’r ymgyrch!

Rydyn ni’n awr yn pwyso am ddiddymu’r Ddeddf yn derfynol yng Nghymru a Lloegr yn ddi-oed, yn ogystal â pheidio â chreu deddfwriaeth ychwanegol a allai olygu fod pobl sy’n ddigartref neu’n amddifad yn droseddwyr.

Dydy digartrefedd ddim yn drosedd. Peidiwch â gadael i’r Llywodraeth gyflwyno hyn drwy’r drws cefn

An image of a megaphone with the text: Tell the government: don't criminalise homelessness by the back door

Mae’r llywodraeth am ddisodli’r Ddeddf Crwydradaeth â chyfreithiau newydd a fyddai’n rhoi pwerau newydd i’r heddlu i wneud begera’n drosedd.

Mae perygl y gall hyn wneud digartrefedd yn drosedd a gwthio’r rheini sydd ar y strydoedd ymhellach i ffwrdd oddi wrth y cymorth sydd arnyn nhw eu hangen. 

Rhaid i ni beidio â disodli un darn niweidiol o ddeddfwriaeth â darn arall sy’n targedu pobl sy’n ddigartref ac yn amddifad.

Llofnodwch y ddeiseb i wneud yn siŵr nad yw’r llywodraeth yn gwneud hyn. Dydy digartrefedd ddim yn drosedd. (Yn Saesneg)

Gweithredwch

Mewn undeb mae nerth

Mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth bellach wedi’i ymgorffori mewn cyfraith.

Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd, na fydd cysgu ar y stryd yn cael ei ystyried yn drosedd yng Nghymru a Lloegr mwyach.

Heb eich llais chi fel rhan o’r ymgyrch hon, ni fyddai’r llywodraeth wedi gweithredu i wneud hyn yn bosib.

Mae’r bobl a oedd wedi cael eu hystyried yn droseddwyr o dan y Ddeddf wedi codi eu llais. Fe wnaeth miloedd ohonom lofnodi deisebau, anfon e-bost at weinidogion y Llywodraeth, dechrau sgyrsiau, cysylltu â’n AS, a rhannu’r ymgyrch ar-lein. Daeth sefydliadau a gwleidyddion at ei gilydd.

Mae hyn yn dangos pa mor bwerus y gallwn fod pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Felly, diolch i bawb a weithredodd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Barn gwesteion a gwirfoddolwyr Crisis y Nadolig ar y Ddeddf Crwydradaeth

“Mae’n warthus. Ofnadwy.” “Adlewyrchiad gwael o gymdeithas.”

Gwyliwch ymateb gwesteion a gwirfoddolwyr Crisis y Nadolig wrth ddod i wybod am y Ddeddf Crwydradaeth – y ddeddf ganrifoedd oed sy’n gwneud cysgu allan yn drosedd. (Fideo yn Saesneg). 

Partneriaid yr ymgyrch

 

Cefnogwyr yr ymgyrch

Frontline Network logo Single Homeless Project 999 Club
Connection at St Martin St Basils
Howard League Aspire Cardinal Hume
Emmaus Action Homeless
Women in Prison Pathway ymca
Ace_of_clubs salvation_army  hjcymru
mayday_trust muslim_aid passage
cih big_issue
commons launchpad friary
cambridge_cyrenians sgyh groundswell
nacro hopeful_traders
pride_in_pill hyh
target live_life
wyhoc korban street_children
NNRF rene_cassin bcha
equally_ours just_fair equality_trust

 

Os hoffech chi i’ch sefydliad gael ei enwi fel un o gefnogwyr yr ymgyrch ar y dudalen hon, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

;